1 Caeau sill o dyrnau serch
2 er gwawd y tavawd hoywverch
3 ac avr gwn dy ddihauraw
4 ith lys a gefais oth law
7 vyngelynion holion hy
8 vedel aml vn dal ymy
13 yn iarlles eiry vn orlliw
14 ith alwn gwedd memrwn gwiw
15 yn herlod sale i'm galwyd
16 i'm gwydd drwy waradwydd drud
9 gwae aur dal liwr gavod od
10 a siric a roys erod
+1 [409] ni routi erofi vaint
+2 y mymryn gwenddyn gwynddaint
11 gwewyr serch gwaeth no gwir saint
12 a gefais drwy ddigofaint
17 gwiwddyn wyd Gwayddan ydwyf
18 waethwaeth newidwriaeth nwyf
19 gyrraist vi y vvn erynt
20 Gwayddan am i gapan gynt
21 a hud a rhyw symvd rhus
22 a lledrith yn dwyllodrus
23 oddiat twyll ac yddwyti
24 anvoes aml yn vy somi
25 dyn gannaid donioc anwyd
26 ddivai dwyll o Ddyved wyd
27 nid vn ysgol hudoliaeth
28 na gwarant twyll cymwyll caeth
29 na hud menw na hoed mynych
30 na brad ar wyr na brwydr wych
31 eithr avael wyth arofvn
32 diav hud oth air dyhvn
35 tri milwr gynt trem olud
36 a wyddyn cynn no hynn hud
37 cad brofiad ceidw brifenw
38 cyntaf addwynaf oedd venw
39 ar ail vydd dydd da ddeall
40 Eiddilic corr wyddel call
41 trydydd oedd gaer muroedd Mon
42 Math rhwy arvaeth rhi Arfon
43 cerddais ar oll bencerddiaeth
44 Cynfno gwyl cyfnewid gwaeth
33 anaml y cedwi vnoed
34 llid rhyvel llwydvab Kel coed
45 dyleudi wenn gymhendwyll
46 delyn ariant tant y twyll
47 [410] henw yt vydd tra vo dydd dyn
48 hudoles ar hoyw delyn
49 enwog ith wnair gair gyrddbwyll
50 armes telyniares twyll
51 y delyn a ydeilwyd
52 o radd nwyf aur o ddyn wyd
57 i llorf a'm pair yn llwyrvarw
58 o hud gwir ac o hoed garw
55 ai chwr ysydd nid gwydd gwyllt
56 ar furf gelvyddydd feryllt
53 mae arnai nadd o radd rus
54 ag ysgarth celc ar esgus
59 twyll ebillion syi honno
60 athruth a gweniaith a thro
63 wi or wengerdd wawr wingoeth
64 a vedri di o vydr doeth
65 trech yw meddir creft hir hud
66 liw gwylan befr no golud
61 davlain o aur a dalant
62 y dwylo tau'n daly tant
67 cymer brad niver bryd Nyf
68 ganwyll gwlad geinver gennyf
69 lawrudd fawd loriaidd i farch
70 le'r wyl gennyf liw'r alarch
Dauid ap Guilim